SL(5)324 – Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Cefndir a Phwrpas
Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf").
Mae'r cod hwn, a'r rheoliadau y mae'n cyfeirio atynt, yn nodi'r gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â'r canlynol:
- pennu cyfraniad neu ad-daliad mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol o dan adrannau 50-53 o'r Ddeddf (Taliadau uniongyrchol);
- y dewis o lety i'r rhai mewn cartref gofal, gan gynnwys talu costau ychwanegol o dan amgylchiadau penodol, o dan adran 57 o'r Ddeddf (Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol);
- codi ffioedd ac asesiadau ariannol o dan adran 59 o'r Ddeddf (Pŵer i osod ffioedd) ar y rhai sy'n cael gofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwyr;
- gohirio taliadau gan y rhai mewn cartref gofal o dan adran 68 o'r Ddeddf (Cytundebau ar daliadau gohiriedig);
- codi ffi o dan adran 69 o'r Ddeddf (Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy) am ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol a chynhorthwy;
- adennill dyledion o dan adran 70 o'r Ddeddf (Adennill costau, llog etc) a throsglwyddo asedau i osgoi ffioedd o dan adran 72 o'r Ddeddf (Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd);
- adolygiadau o dan adran 73 (Adolygiadau sy'n ymwneud â chodi ffioedd) sy'n ymwneud â dyfarniadau ynghylch codi ffi a wneir o dan y Ddeddf neu ffioedd a godir o dan y Ddeddf.
Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r canlynol:
- llunio polisi ynghylch codi ffioedd;
- materion cyffredin mewn perthynas â chodi ffioedd;
- codi ffi am ofal a chymorth mewn cartref gofal;
- dewis o lety wrth drefnu gofal mewn cartref gofal;
- gwneud taliadau am gostau ychwanegol ar gyfer y llety sy'n cael ei ffafrio;
- codi ffi am ofal a chymorth yn y gymuned;
- codi ffi am gymorth i ofalwyr.
Gweithdrefn
Rhaid gosod drafft o’r cod gerbron y Cynulliad. Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod.
Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.
Craffu o dan Rheol Sefydlog 21.7
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
15 Chwefror 2019